Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn “paratoi yn helaeth” ar gyfer unrhyw eira’r gaeaf yma, yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones.

Daw ei neges wrth i’r eira cyntaf ddisgyn yng Nghymru dros nos, ac wrth i broffwydi’r tywydd ragweld bod mwy ar y ffordd heno, dros y penwythnos, ac i mewn i’r wythnos nesaf.

Y gaeaf diwethaf oedd yr oeraf ers dros 30 mlynedd a bu’n rhaid i gynghorau roi’r gorau i raeanu rhai ffyrdd wrth i’r stociau halen fynd yn isel.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones bod 130,000 tunnell o halen wedi ei storio ar draws Cymru, a bod 38,000 arall ar y ffordd.

Roedd yna gyfleusterau newydd er mwyn storio halen ar draws Cymru, a chanllawiau newydd er mwyn gwneud yn siŵr bod stociau yn cael eu defnyddio’n effeithiol.

Dywedodd bod Llywodraeth y Cynulliad wedi prynu sgubor halen newydd ym Mlaenau Gwent fydd yn dal 10,000 o dunelli ychwanegol o halen ar gyfer y cynghorau cyfagos.

“Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am glirio ffyrdd ac rydym ni’n parhau i drafod gyda nhw er mwyn sicrhau fod ganddyn nhw ddigon o halen,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Rydym ni wedi bod yn cydweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru er mwyn gwella stociau halen ledled Cymru cyn y gaeaf yma er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth yn parhau i symud a Chymru’n rhydd o eira.

“ Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cynghorau wedi bod yn paratoi’n helaeth ar gyfer tywydd oer dros y 12 mis diwethaf.

“Mae yna 130,000 tunnell o eira wedi ei storio ar draws y wlad, a 38,000 tunnell arall wedi ei archebu ac ar fin cyrraedd. Fe fydd yr halen yn cael ei stori ar draws y wlad.

“Fe fydd newid i’r modd y mae’r halen yn cael ei ddefnyddio yn golygu y bydd o’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol ac yn para’n hirach.

“Ers y gaeaf diwethaf rydym ni wedi bod yn cynllunio’r ddiwyd ar gyfer yr amgylchiadau sy’n cael eu proffwydo’r wythnos yma ac fe fyddwn ni’n cadw llygad ar beth sy’n digwydd pob awr o’r dydd a gwneud popeth bosib er mwyn cadw Cymru’n symud.”

(Oes gennych chi luniau o’r eira? Anfonwch nhw at gol@golwg.com ac fe wnawn ni gyhoeddi y gorau)