Mae chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey wedi dweud na fydd o’n rhuthro ‘nôl i chwarae yn dilyn ei gêm bêl droed gyntaf mewn naw mis.
Fe chwaraeodd y Cymro 19 oed 45 munud i ail dîm Arsenal yn erbyn ail dîm Wolves echdoe, gan sicrhau buddugoliaeth 2- 1.
Dyma oedd ei gêm gyntaf ers torri ei goes yn erbyn Stoke ym mis Chwefror eleni.
Mae Ramsey yn awyddus i ddychwelyd i chwarae’n gyson i dîm cyntaf Arsenal, ond mae’n cydnabod y bydd rhaid iddo fod yn amyneddgar.
“Roedd o’n wych cael dod yn ôl i chwarae fy ngêm gyntaf. Roeddwn i wedi gorfod disgwyl am amser hir ac yn teimlo bod pethau’n mynd yn eithaf da,” meddai Ramsey wrth Arsenal TV.
“Roeddwn i mas o bwff braidd ar ôl ugain munud, felly mae angen i mi weithio ar fy ffitrwydd, ond rwy’n teimlo’n dda.”
Dim ofn
Mae’n bosib y bydd Ramsey yn cael ei ddewis yng ngharfan Arsenal ar gyfer rownd wyth olaf y Cwpan Carling yr wythnos nesaf yn erbyn Wigan. Ond dywedodd Ramsey ei fod o eisiau cymryd un cam ar y tro.
“Yr unig ffordd ydw i’n mynd i wella fy ffitrwydd ydi trwy chwarae gemau. Rwy’n teimlo’n ffit wrth ymarfer ond wrth chwarae roeddwn i ychydig ar ei hôl hi i gymharu â’r gweddill.
“Ond ar ôl bod allan am naw mis mae’r cyhyrau yn dal i ddod i arfer gyda’r ymarferion caled a’r gemau. Gobeithio na fyddai’n cael fy anafu eto.
“Fe fyddai’n chwarae rhai gemau eto i’r ail dîm, 60 munud i ddechrau, wedyn gêm lawn. Fe fyddai’n brwydro am le yn y tîm cyntaf wedyn.
“Dw i ddim am neidio’n yn ôl mewn, mae’n mynd i gymryd amser. Ond cyn gynted ag y byddai’n teimlo’n ffit, fe fyddai’n ceisio dechrau gêm i’r tîm cyntaf.”
Er ei fod o wedi dioddef anaf erchyll mae Ramsey yn mynnu na fydd yr atgof yn ei ddal yn ôl.
“Rydw i wedi gweld arbenigwr ac roedd o’n hapus i mi ddechrau chwarae, felly does gen i ddim problem. Fe ges i ambell i gic ar y goes ac roedd hi’n teimlo’n iawn.
“Mae’r cyfan allan o fy meddwl i nawr.”