Mae Bwrdd yr Iaith yn gofyn am fwy na £350,000 dros dair blynedd i greu ardal weithredu arbennig yng nghymoedd Aman a Tawe.
Ac maen nhw’n gwneud yn glir y gallai’r cynllun fod yn batrwm ar gyfer ei weithredu mewn ardaloedd eraill o Gymru.
Fe allai hynny arwain at rwydwaith o ardaloedd lle mae gweithredu dwys i geisio sicrhau fod y Gymraeg yn aros yn iaith gymunedol – mae Golwg360 yn deall y gallai hyn fod yn rhan o strategaeth iaith y Llywodraeth.
“Mae’r cynllun yn cynnig patrwm y gellid ei efelychu ar draws Cymru ar gyfer gweithredu holistaidd dwys mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol,” meddai papur y Bwrdd.
Trafod
Fe fydd y Bwrdd yn trafod y syniad yn eu cyfarfod fory, gyda’r bwriad o anfon cais at y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.
Yn ôl y Bwrdd, mae’r Gymraeg mewn peryg o beidio â bod yn iaith gymunedol yn y ddau Gwm ac maen nhw’n dweud bod ei sefyllfa’n “argyfyngus”.
Maen nhw’n dweud “y bydd y Gymraeg yn darfod fel iaith gymunedol ac fel iaith gyntaf” yno heb weithredu dwys trwy sefydlu’r hyn y maen nhw’n ei galw’n ardal o arwyddocâd ieithyddol arbennig.
“Mae’r teimlad cyffredinol a’r dystiolaeth gyfredol yn datgelu sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn colli tir sylweddol fel iaith fyw yn y gymuned,” meddai cynnig y Bwrdd.
‘Cynllunio dwys’
Maen nhw’n galw am “gynllunio ieithyddol dwys” er mwyn adfer a diogelu’r Gymraeg gan sicrhau fod cynllunio strategol yn digwydd ar draws y ddwy ardal sy’n croesi tair sir – Powys, Caerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae gweithgor eisoes wedi cael ei ffurfio rhwng staff y Bwrdd a’r Mentrau Iaith lleol a’r nod fyddai sefydlu Partneriaeth Datblygu’r Gymraeg a grwpiau prosiect ac ardal.
Fe fyddai’r cyfan, medden nhw, yn costio £123,400 y flwyddyn am dair blynedd.
Mae stori am gefndir y cynllun a’r ardal yng nghylchgrawn Golwg heddiw.
Llun: Pontardawe