Mae tua 80 o deithwyr wedi gorfod gadael trên ar ôl iddo ddod oddi ar y cledrau ym Mhowys.

Mae’n debyg bod y trên 6.09pm rhwng Birmingham ac Aberystwyth wedi gadael y cledrau tua 20.15pm ddoe, y tu allan i’r Trallwng.

Roedd sawl un o olwynion blaen y trên wedi gadael y traciau. Doedd neb wedi eu hanafu ac fe wnaeth y gwasanaethau brys helpu’r teithwyr, gan gynnwys dynes feichiog, i le diogel.

Mae cwmni Railtrack yn ymchwilio i beth ddigwyddodd.