Nid y chwaraewyr, ond Warren Gatland yr hyfforddwr, sy’n gyfrifol am ddiffyg patrwm, diffyg strategaeth a diffyg gweledigaeth tim rygbi Cymru, yn ôl Alun Wyn Bevan …

Dyma flas o’i golofn yng nghylchgrawn Golwg, 25 Tachwedd.

“O fy rhan i, mae’r teimladau wedi bod yn cronni yn yr isymwybod ers tro byd ac i raddau fyddech chi’r darllenwyr yn rhyw gytuno. Fe ddaeth Gatland i Gymru ar ôl cyfnod llwyddiannus fel hyfforddwr y Wasps ond fe alle’r dyn yn y stryd fod wedi cymryd yr awenau yno â Dallaglio, Lewsey, Worsley, a Shaw yn y garfan. Do, roedd e’n allweddol adeg Camp Lawn 2008 ond beth am ystyried ei record oddi ar hynny. Oddi ar Ionawr 2009, mae Cymru wedi ‘ware 22 ac wedi ennill pump. A fydde hyfforddwyr Hwlffordd, Hull a Hartlepool yn dal mewn swydd ar ôl canlyniadau o’r fath?

“Mae Warren Gatland yn ŵr styfnig; yn anfodlon gwrando, yn anfodlon derbyn unrhyw feirniadaeth ac yn rhy driw o lawer i rai chwaraewyr. Yn sgîl y canlyniad yn erbyn Fiji (a nifer o berfformiadau gwbl annerbyniol dros y ddau dymor diwetha’) mae’n ofynnol i’r hyfforddwr gydnabod gwendidau amlwg yn ei gyfansoddiad.

“Ar noson Plant Mewn Angen roedd yna enghreifftiau cyson o oedolion mewn angen. Pam o pam nad yw e wedi dweud yn dawel wrth ambell un bod angen iddyn nhw ddychwelyd i’w rhanbarthau a phrofi eu bod nhw’n chwaraewyr o safon cyn cael gwisgo’r crys coch eto (sori, glas). Pam mae e’n cynnwys unigolion mewn carfan genedlaethol a rheiny’n ddim digon da i gynrychioli’u rhanbarthau? Pam pwyntio bys ar un neu ddau ar ôl y chwib ola’ yn hytrach na chydnabod yn agored mai y FE sy’n gyfrifol am ddiffyg patrwm, diffyg strategaeth a diffyg gweledigaeth? Ac roedd ei benderfyniad i fychanu Ryan Jones yn syth ar ôl y chwib ola’ a dweud na fydde fe’n arwain Cymru yn erbyn y Crysau Duon yn annoeth – fe ddylse hynny fod wedi digwydd mewn ‘stafell gaeedig.

“Fe gollodd Mike Ruddock ei swydd ar ôl cipio Camp Lawn; Gareth Jenkins yn cael ei luchio dros yr ystlys ar ôl colli gêm fythgofiadwy yn erbyn Fiji. Ac i Warren Gatland … cyfres o berfformiadau siomedig yn arwain at estyniad yn ei gytundeb sy’n ei gadw yng Nghymru tan 2015! Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae methiant yn sicr o arwain at swydd arall â thipyn mwy o hygrededd.”