Fe gafodd Ruth Jên ei hysbrydoli i roi tro yng nghynffon y stereoteip enwog o’r Gymraes yn ei gwisg draddodiadol, ar ôl casglu pentwr o hen gardiau post o hen wragedd Cymreig yn eistedd yn sidêt yn eu ffedogau crand a’u hetiau tal du.
“Ro’n i â diddordeb fel oedd yr eicon o fenywod Cymreig wastad yn cael te parti, yn gweu sanau neu’n nyddu; yn bobol barchus tu hwnt,” meddai’r artist o bentre’ Talybont ger Aberystwyth.
“Dw i’n eitha’ licio’r syniad ohonyn nhw yn rebelio, yn cicio yn erbyn y tresi. Bod agwedd gyda nhw.”
Felly aeth Ruth Jên ati i gynllunio cyfres o luniau mono-print – maen nhw i gyd yn argraffiadau unigryw – o wragedd Cymreig eofn ac i’w gweld mewn arddangosfa o’r enw Peidiwch dweud wrth y diaconiaid yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.
“Doedd dim syniad gen i fod cymaint o ddiddordeb,” meddai’r artist ar ôl i bobol heidio i’r stondin ar faes yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy yn adrodd hanesion am fenywod oedd yn gwisgo dillad tebyg..
“Yn rhyfedd iawn, maen nhw’n apelio at bob ystod o oedran. Dw i eisiau iddyn nhw fod yn codi calon rhywun, bod rhywun yn cael real laff.
“Be’ sy’n ddiddorol tu hwnt i fi am y gwaith yw bod dynion yn eu hoffi nhw.
“Mae dynion yn dweud yr un peth – eu bod yn eu hatgoffa o fenywod ro’n nhw’n eu hadnabod. Mae hynny’n bwysig iawn, bod pobol yn uniaethu at fenyw Gymreig fel menyw gyffredin.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Tachwedd