Mae’r Arglwydd Roberts o Landudno wedi cael cefnogaeth dau Arglwydd arall i’w gais i dynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n gwneud ei ffordd trwy Dy’r Arglwyddi.
Mae 24 mudiad wedi ysgrifennu ar y cyd at weddill yr Arglwyddi â chysylltiadau Cymreig i ofyn am eu cefnogaeth nhw hefyd.
“Dw i’n tynnu S4C allan o’r mesur,” meddai Roger Roberts am ei welliant. Bwriad y Llywodraeth wrth gyflwyno’r mesur yw gwneud cyrff cyhoeddus yn fwy atebol.
Ond mae’r Arglwydd Democrataidd Rhyddfrydol yn pryderu bod y mesur, i greu “rhyw goelcerth o’r cwangos”, yn cael ei wneud ormod ar frys heb feddwl am y goblygiadau.
“S4C ydy’r unig fudiad Cymraeg neu Gymreig sydd yn y mesur o gwbwl. Does dim un arall yn cael ei gyffwrdd yn hwn. A dydy’r BBC ddim i mewn – am ei fod nhw wedi’i greu gan siarter wrth gwrs. Ond gan mai nhw fydd yn cyllido S4C i raddau helaeth, mae’n creu perthynas cwbl ansicr.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Tachwedd