Mae 10 miliwn o Americanwyr yn gwylio Matthew Rhys bob nos Sul, ond prin yr un ohonyn nhw’n gwybod ei fod yn siarad Cymraeg.

Mae’n peri tristwch i’r actor fod pobol America yn gwybod y nesaf peth i ddim am ei famiaith.

Ers pedair blynedd bellach mae’r actor o Gaerdydd wedi bod yn rhan o gast cyfres ddrama deledu boblgaidd Brothers and Sisters.

Mae yna ddiddordeb “yn sicr” yn America yn y ffaith ei fod yn siarad Cymraeg, meddai.

Mae bron pob gwefan sy’n rhoi manylion cefndir yr actor yn nodi ei fod wedi’i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Melin Gruffydd a Glantaf.

“Mae’r diddordeb mwyaf yn dod o’r ffaith eu bod nhw ddim yn ymwybodol bod yna iaith Gymraeg,” meddai Matthew Rhys, “bod yna ddiwylliant neu unrhyw elfen fel’na. Sy’n anffodus i ryw raddau.

“Ambell waith, dw i’n teimlo yn drist bod pobol ddim yn gwybod, neu yn gwybod cyn lleied.”


Byw yn Los Angeles

Roedd Matthew Rhys yn siarad ar drothwy ei ymweliad â Chymru i hyrwyddo llyfr newydd, Patagonia: Crossing the Plain / Croesi’r Paith.

Wrth drafod ei fywyd a’i waith yn yr Unol Daleithiau dywed ei fod yn drist nad oes mwy o waith ym Mhrydain i actor ifanc.

Mae wedi cymryd amser iddo gyfarwyddo â byw yn Los Angeles, meddai.

“Mae hi’n ddinas digon od. Mae’n cymryd ychydig o flynyddoedd dw i’n credu i ddygymod â’r lle. Ond mae yna griw da o Gymry yma. Mae criw da o ffrindiau gyda fi, felly mae e nawr yn dipyn haws. Gymrodd e dipyn i fi ddod i arfer â’r lle, ond dw i wedi setlo nawr.”

Ac, ydi, mae Ioan Gruffudd “yn byw rownd y gornel, felly fi’n gweld e’n eithaf aml, sy’n reit neis”.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Tachwedd