Dim ond ychydig ddyddiau cyn geni babi wnaeth Fflur Dafydd orffen sgwennu ei chasgliad newydd o straeon byrion.
Bellach mae Beca Elfyn yn ddeg wythnos oed. “Dw i’n teimlo ei bod hi wedi dysgu lot i fi am fywyd,” meddai’r awdur, sy’n cyhoeddi Awr y Locustiaid yr wythnos hon.
“Roedd hwn yn perthyn i gyfnod yr hen Fflur mewn ffordd, cyn i fi fod yn fam. Wedyn mae hi wedi rhoi perspectif newydd eto i fi ar fywyd. Felly mae’n braf.”
Mae yna naw o straeon yn y casgliad, yn amrywio o straeon ag iddyn nhw arddull abswrd, neu ‘realaeth hudol’ fel y mae hi’n cyfieithu ‘magic realism.’
Mae rhai yn newydd sbon, eraill yn mynd nôl ryw ddeng mlynedd pan oedd hi’n 22 oed, wedi’u haddasu a’u datblygu.
“Falle roedd gyda fi fwy o ddychymyg ddeng mlynedd nôl ond bod fy arddull i yn gryfach ddeg mlynedd ymlaen,” meddai.
“Mae rhai yn bethau sy’ wedi bod gyda fi yn eitha’ hir yn fy nychymyg a rhai’n newydd sbon. Felly mae’r cymysgedd yna.”
Mae’r awdur yn falch o gael dychwelyd at ei chariad cyntaf ar ôl pedair blynedd yn sgrifennu nofelau. Mi wnaeth Y Llyfrgell gipio Gwobr Goffa Daniel Owen iddi yn 2009.
“Fel yma y dechreuais i sgwennu,” meddai’r awdur, “trwy drio gwahanol straeon mas. Mae e yn ffurf lot mwy pur na’r nofel, yn mynd nôl yn hirach, gyda’r traddodiad llafar, pobol yn pasio straeon lawr i’w gilydd, yn mynd nôl bron i’r hen ddamhegion.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Tachwedd