Mae Rheolwr y BBC wedi gwrthod rhoi sicrwydd bod cyllideb S4C yn ddiogel at y dyfodol.
Roedd Mark Thompson yn cwrdd â Chyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards ynghyd â gwleidyddion mewn bwyty moethus ym Mae Caerdydd. Wrth iddyn nhw gyrraedd Woods Brasserie, mynnodd aelodau Cymdeithas yr Iaith siarad â nhw.
“Dydw i ddim yn gwarantu unrhywbeth am unrhywbeth,” meddai Mark Thompson wrth gael ei holi gan Colin Nosworthy a Simon Brooks a oedd eisiau sicrwydd o ddiogelwch i gyllideb S4C wedi 2015, diwedd cyfnod yr arolwg gwariant cyhoeddus.
“Rydw i yma heddiw i wrando ar yr holl bwyntiau. Nid syniad y BBC oedd hi i gael ei ofyn i ddod mewn i ariannu S4C allan o ffi’r drwydded. Daeth e oddi wrth Lywodraeth y DU.
“Rydym ni wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg. Dyw hi ddim fel ein bod ni’n ddieithriaid llwyr i ddarlledu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Rydyn ni wedi bod yn darparu Newyddion a mwy i S4C ers blynyddoedd mawr… Gorchwyl y BBC yw gwasanaethu pobol Cymru trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg. Dyna pam yr ydym ni yma.”
Yn y fantol
Ond yn ôl Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith, mae geiriau Mark Thompson yn achos pryder am ei fod yn “cadarnhau bod dyfodol S4C yn y fantol”.
“Beth sy’n ein poeni ni yw bod Mark Thompson ddim yn gallu gwarantu bydd arian ar gael i S4C ar ôl 2015,” meddai.
“O’r hyn r’yn ni’n clywed, mae toriadau’n mynd i fod dros 40% i’r sianel ac mae hynny’n mynd i beryglu bodolaeth y sianel yn llwyr. Dyw pobol ddim yn sylweddoli bod bodolaeth S4C yn y fantol fan hyn.
“Mae gyda ni’r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n rhoi grym i’r Ysgrifennydd Gwladol gael gwared ar y sianel yn llwyr a newid y fformiwla ariannu. Yn y cyd-destun yna mae’n rhaid poeni am ddyfodol a bodolaeth y sianel.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Tachwedd