Fe fydd Llywodraeth De Korea yn cynyddu’r trefniadau diogelwch i warchod ynysoedd sy’n agos at y ffin gyda Gogledd Korea.
Dyna addewid yr Arlywydd, Lee Myung-bak, ar ôl y gwrthdaro rhwng y ddwy wlad ddechrau’r wythnos pan gafodd y Gogledd eu cyhuddo o ymosod ar un o ynysoedd y De gan ladd pedwar o bobol – gan gynnwys dau filwr – a dinistrio nifer o gartrefi.
Roedd hefyd yn rhybuddio y byddai’r De yn taro’n ôl pe bai rhagor o ymosodiadau.
Ymarferion milwrol
Yn y cyfamser, mae’r Arlywydd Obama wedi cadarnhau y bydd llongau rhyfel yr Unol Daleithiau’n ymuno gyda lluoedd y De i gynnal ymarferiadau milwrol yn y Môr Melyn dros y Sul.
Roedd y Gogledd wedi cyhuddo’r De o ddechrau pethau ac o’u pryfocio, gan ddweud y bydden nhw’n gweithredu eto pe bai raid.
Yn ôl arbenigwyr, mae’r broses o drosglwyddo grym rhwng Arlywydd y Gogledd a’i fab yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn tensiwn.
Llun: Milwr o’r Gogledd yn dangos y ffin rhwng y ddwy wlad (CCA 3.0)