Mae protestiadau yn erbyn codi ffioedd myfyrwyr wedi parhau tros nos, gyda rhai myfyrwyr wedi meddiannu stafell ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd yna brotestiadau tebyg hefyd yn Rhydychen, Caergrawnt, Bryste, Plymouth, Birmingham a Llundain.

Yno, yn ardal Westminster, yr oedd yr helynt gwaetha’ ddoe, gyda 32 o bobol yn cael eu harestio a dau blisman a 15 o bobol eraill yn cael eu brifo.

Roedd yna adroddiadau hefyd am ddifrod i gerbyd ac i fannau aros am fysys cyn i’r heddlu gaethiwo cannoedd o brotestwyr yn un lle am tua chwe awr.

Fe gafodd pobol eu harestio mewn llefydd eraill hefyd – dau am rwystro yng Nhaergrawnt, un am daflu wyau yn Lerpwl a phedwar am droseddau trefn gyhoeddus ym Manceinion.

Roedd disgyblion ysgol a rhieni wedi ymuno yn y protestiadau mewn rhai llefydd gyda dyn 41 oed a bachgen 15 oed yn cael eu harestio yn Brighton.

Llun: Prifysgol Caergrawnt – dau wedi’u harestio