Fe fydd yr heddlu a’r llysoedd yn cael grym i wahardd dynion sy’n ymosod ar eu partneriaid a’u cadw rhag mynd adref na chysylltu â’r fenyw.
Fe fydd tri chynllun peilot yn cael eu cynnal i roi prawf ar y gorchmynion gwahardd – un ym Manceinion, un yn Wiltshire a’r llall yn ardal heddlu West Mercia ar y gororau â Chymru.
Hanfod y cynllun yw bod yr heddlu’n cael grym i ymyrryd, hyd yn oed os nad oes digon o dystiolaeth i ddod ag achos llys neu os yw’r ddioddefwraig yn rhy ofnus i weithredu ei hunan.
Fe fyddai’r heddlu eu hunain yn gallu gwahardd ymosodwr o’i gartref am 48 awr; ar ôl hynny, fe fyddai’n rhaid mynd o flaen llys i ofyn am hawl i estyn y gwaharddiad am gyfnod o rhwng 14 a 28 diwrnod.
Fe fyddai’r dioddefwyr yn cael cyfle i drafod eu dyfodol tra bod yr ymosodwyr yn gorfod ffeindio lle i fyw trostyn nhw eu hunain.
‘Trosedd ofnadwy’
Roedd y syniad wedi ei gynnig i ddechrau gan y Llywodraeth Lafur ddiwetha’ ac mae’n dilyn esiamplau tebyg mewn nifer o wledydd yn Ewrop.
“Mae trais yn y cartref yn drosedd ofnadwy, sy’n arwain at farwolaeth dwy o ferched bob wythnos ar law eu partneriaid,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.
“Mae miliynau’n rhagor yn dioddef blynyddoedd o gam-drin yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r grymoedd newydd yma’n caniatáu i’r heddlu ymyrryd pan fydd y dioddefwyr ar eu mwya’ bregus.”
Llun: Theresa May