Mae angen i’r Llywodraeth yn Llundain gytuno ar unwaith i gynnal adolygiad o ddyfodol S4C meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

Ond mae AS Ceidwadol amlwg wedi galw eto ar i aelodau Awdurdod S4C ymddiswyddo gan eu cyhuddo o ymddwyn fel gwleidyddion mewn gwlad sy’n datblygu.

Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, bod y “cecru cyhoeddus” diweddara’ yn gwneud niwed i’r sianel, gyda dryswch tros ymddiswyddiad Cadeirydd yr Awdurdod.

“Dw i’n apelio ar y Llywodraeth (yn Llundain) , ewch ymlaen efo’ch syniadau am adolygiad annibynnol a symud ymlaen,” meddai wrth Radio Cymru.

‘Ddim yn ffit’

Ond mae’r Ceidwadwr, Alun Cairns, yn mynnu y dylai holl aelodau’r Awdurdod ymddiswyddo – heblaw am y Cadeirydd, John Walter Jones.

Roedd yn cyhuddo’r aelodau eraill o boeni am eu crwyn eu hunain yn hytrach nag am ddyfodol y sianel a’r iaith Gymraeg.

Ac fe ddywedodd wrth Radio Wales nad oedd yr Awdurdod bellach yn ffit i benodi Prif Weithredwr newydd – mae’r dyddiad cau yfory.

Roedd hefyd yn awgrymu y gallai’r Ysgrifennydd Diwylliant yn Llundain, Jeremy Hunt, golli amynedd a phenderfynu rhoi S4C yn nwylo’r BBC.

Mae’r AC Llafur, Alun Davies, hefyd wedi galw ar i’r Awdurdod cyfan fynd.

‘Wedi ymddiswyddo’

Mewn cyfweliad arall, fe ddywedodd Dirprwy Gadeirydd newydd S4C, Rheon Tomos, bod John Walter Jones wedi ymddiswyddo nos Fawrth.

Roedd yn pwysleisio mai penderfyniad personol y Cadeirydd oedd ymddiswyddo a bod yr aelodau eraill wedi “dychryn” oherwydd yr helynt. Doedd John Walter Jones ddim wedi cysylltu â nhw, meddai, ac roedd yntau wedi sgrifennu at y Cadeirydd yn gofyn am esboniad.

Ar Radio Cymru, fe wadodd honiad gan yr AC Ceidwadol arall, Guto Bebb, nad oedd neb o aelodau’r Awdurdod wedi bod yn trafod gydag ef yn ystod y misoedd diwetha’. “Dw i ddim yn dallt lle mae’r wybodaeth yna’n dod,” meddai Rheon Tomos.

Llun: Ieuan Wyn Jonesd