Mae’r penderfyniad i drydaneiddio’r lein reilffordd o Lundain i Abertawe wedi cael ei ohirio unwaith eto.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn Llundain, Philip Hammond, y bydd y cyhoeddiad yn cael ei ddal yn ôl tan y flwyddyn newydd.
Mae’r penderfyniad yn cael ei weld yn un allweddol o ran ymrwymiad Llywodraeth San Steffan i Gymru, gyda biliynau’n cael eu gwario ar gynlluniau trydaneiddio yn Lloegr a rheilffyrdd newydd yn Llundain.
Mae’r Ysgrifennydd hefyd wedi gohirio’r penderfyniad i archebu trenau 125 newydd – mae bellach yn ystyried cynigion gan ddau gwmni.
Fe gyhoeddodd Philip Hammond y bydd 2,100 o gerbydau newydd yn cael eu cyflwyno erbyn 2019, gyda rhai o’r rheiny ar y llinellau newydd yn Llundain.
Roedd y gohirio’n “siom fawr”, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog yng Nghymru, Ieuan Wyn Jones, sy’n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth yma.
Llun: Rhan o reilffordd y De