Fe allai gymryd misoedd i dynnu cyrff yr holl lowyr allan o bwll Pike River yn Seland Newydd, meddai Prif Weinidog y wlad.

Mae perchnogion y pwll yn rhybuddio bod nwyon peryglus yn dal i gasglu yno ac mae’n ymddangos bod tân yn mudlosgi yn rhywle yn nyfnderoedd y pwll.

Mae’n glir bellach fod y 29 o lowyr wedi eu lladd ar ôl y ffrwydrad gwreiddiol ddydd Gwener ac un arall ddoe.

Roedd nwyon wedi atal achubwyr rhag mynd i mewn i’r pwll rhwng y ddau ddigwyddiad ac mae’r cyfryngau yn Seland Newydd bellach yn egluro bod yn ffrwydrad cynta’ wedi torri’r bibell oedd yn sugno’r nwyon oddi yno.

Ymchwiliad yn dechrau

Mae’r Adran Lafur yn Seland Newydd wedi dechrau ar ymchwiliad i’r trychineb – yr ymchwiliad mwya’ yn ei hanes – ac mae John Key wedi awgrymu y bydd yn sefydlu Comisiwn Ymchwil hefyd.

Fe fydd cyfarwyddwyr cwmni Pike River yn cyfarfod yr wythnos yma i drafod dyfodol y pwll – yn ôl papur y New Zealand Herald, mae yna 50 miliwn o dunelli o lo ar ôl yno.

Roedd dau Albanwr ymhlith y 29 o lowyr – Peter Rodger, 40, a Malcolm Campbell, 25.

Llun: John Key – ystyried Comisiwn Ymchwil