Bydd dyfarnwyr o Gymru yn rheoli gemau cynghrair yr Alban y penwythnos yma, ar ôl i’w dyfarnwyr nhw benderfynu mynd ar streic.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cytuno i anfon tîm o bedwar i’r Alban, gan ddweud y bydd o’n “gyfle gwych iddyn nhw ddyfarnu ar y lefel uchaf”.

“Ond mae’n rhaid pwysleisio mai ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr bod digon o ddyfarnwyr ar gael ar gyfer yr holl bêl-droed yng Nghymru, fel ar bob penwythnos arall,” meddai llefarydd wrth y Western Mail.

Y cynllun yw bod pedwar dyfarnwr yn cymryd rheolaeth o gemau dydd Sadwrn a dydd Sul, gyda’r dyfarnwr yn y gêm gyntaf yn bedwerydd swyddog yn yr ail ac i’r gwrthwyneb.

Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn cynnal trafodaethau newydd gyda’u dyfarnwyr nhw heddiw.

Bydd gemau yn Uwch Gynghrair Clydesdale yr Alban, Cynghrair Irn Bru a Chwpan Her Alba yn cael eu heffeithio os yw’r streic yn mynd yn ei blaen.