Mae grŵp o aelodau seneddol Ceidwadol wedi galw am ymddiswyddiad holl Awdurdod S4C – heblaw am y Cadeirydd.
Maen nhw’n cyhuddo’r aelodau o geisio tanseilio’r broses o drafod gyda’r BBC – ar ôl i’r Llywodraeth yn Llundain benderfynu y dylai arian y sianel ddod trwy’r Gorfforaeth.
Fe ddywedodd un o’r ASau, Guto Bebb, wrth Radio Cymru bod gan yr aelodau eu hagenda eu hunain a’u bod yn tanseilio “ymdrechion clodwiw” y Cadeirydd, John Walter Jones, i drafod gyda’r BBC.
‘Colli hygrededd’
Ddoe, fe ddywedodd nifer o ffigurau amlwg o’r byd darlledu yng Nghymru bod Awdurdod S4C wedi colli “hygrededd” ac, yn ôl Guto Bebb, roedd hynny’n ei gwneud yn anodd iddyn nhw drafod dyfodol y sianel.
Roedd yn honni bod rhai o aelodau’r Awdurdod yn gwrthwynebu cynnal unrhyw drafodaethau gyda’r BBC.
“Mae’n rhaid iddyn nhw ystyried a ydyn nhw’n cyfrannu at y broses o ail-ddatblygu S4C neu a ydyn nhw’n achosi problemau yn y broses honno,” meddai.
Llun: Guto Bebb (Gwefan Ceidwadwyr Aberconwy)