Mae dau dwrnai sy’n cynrychioli ymgyrchwyr gwleidyddol, wedi cael eu rhyddhau o garchar yn Iran, wythnos wedi iddyn nhw gael eu rhoi yn y ddalfa.

Mae gwefan yr wrthblaid, Kaleme.com, yn dweud bod y gwragedd Maryam Kianersi a Rosa Gharachorlu ymhlith pump o gyfreithwyr a gafodd eu dal ar gyhuddiad o faterion yn ymwneud â diogelwch, wedi iddyn nhw ddychwelyd i’r wlad wedi cyfnodau dramor.

Mae’r tri chyfreithiwr arall yn dal yn y carchar.

Mae’n ymddangos fod yr arestiadau yn rhan o ymgyrch galetach Iran i bwyso ar feirniaid y wlad a’r bobol sy’n eu hamddiffyn nhw, a hynny yn dilyn yr etholiad arlywyddol dadleuol yn 2009.

Mae’r ddwy wraig sydd wedi eu rhyddhau ymhlith y rhai arwyddodd lythyr agored ym mis Medi i alw am ryddhau’r ymgyrchydd hawliau dynol, Nasrin Sotoudeh, a gafodd ei ryddhau ar Fedi 4 ar amheuaeth o ledu propaganda er mwyn tanseilio areinyddion y wlad.

Llun: protestiadau yn Tehran yn dilyn etholiad 2009