Mae tua 1,000 o bobol wedi bod yn protestio yn ail ddinas fwyaf Haiti, gan feio lluoedd y Cenhedloedd Unedig am ddod â colera marwol i’r wlad.

Fe fu’n rhaid i filwyr y CU a heddlu’r ynys ddefnyddio nwy dagrau i wasgaru’r protestwyr, gyda gwasanaeth lleol Radio Metropole yn dweud bod o leia’ 12 wedi cael eu hanafu.

Fe fu protestiadau y tu allan i rai o ganolfannau eraill y Cenhedloedd Unedig a’r heddlu yn Haiti – maen nhw’n dweud mai milwyr rhyngwladol o Nepal sydd wedi dod â’r afiechyd i’r wlad.

Mae bron 1,000 o bobol wedi cael eu lladd gan y salwch – y geri – ac mae gwyddonwyr wedi cadarnhau fod y math sydd yn Haiti yn deillio o dde Asia.

Mae’r protestwyr hefyd yn cyhuddo’r milwyr o ladd plentyn yn y ganolfan yn ninas Cap-Haitien ym mis Awst.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cenhedloedd Unedig yn Haiti, roedd y protestio wedi dechrau yr un pryd mewn tri neu bedwar rhan o’r ddinas, gan awgrymu bod y cyfan wedi cael ei gynllunio.

Miloedd yn dioddef

Mae 14,600 o bobl wedi dioddef o’r afiechyd hyd yn hyn gyda grwpiau meddygol yn rhybuddio y gallai gyrraedd cannoedd ar filoedd.

Mae’r salwch yn cael ei ledu gan garthion ac mae’n fwy peryglus lle mae yna ddiffyg dŵr glân – mae cannoedd o filoedd o bobol Haiti yn dal i fod mewn gwersylloedd bryd ers y daeargryn a fu yno ddechrau’r flwyddyn.

Llun: Gwersyll yn Haiti (Agencia Brasil CCA 2.5)