Fe fydd corff y milwr o ogledd Cymru a fu farw mewn damwain yn y môr yng Nghyprus yn cael ei hedfan yn ôl i wledydd Prydain heddiw.

Fe gafodd Scott Hughes, 20 oed, ei ladd ar 7 Tachwedd ar ôl cael ei daro gan gwch milwrol pan oedd yn nofio yn y môr.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dechrau ar ymchwiliad i’r ddamwain a ddigwyddodd pan oedd y dyn ifanc o’r Felinheli ger Caernarfon ar gyfnod o wyliau ar ôl bod yn ymladd yn Afghanistan gyda’r RAF.

Fe fydd ei gorff yn cael ei ddychwelyd i RAF Lyneham yn Wiltshire ac, ar ôl seremoni breifat fe fydd corff y milwr yn teithio trwy Wootton Bassett.

Datganiad gan y teulu

Mewn datganiad fe ddywedodd teulu Scott Hughes bod eu “mab dewr wedi cael ei gymryd yn greulon” oddi arnyn nhw.

“Ond rydan ni’n gwybod bod Scott wedi gwireddu ei freuddwyd o wasanaethu ei gatrawd a’i wlad,” medden nhw mewn datganiad.

Yn ôl un o’i benaethiaid yn yr RAF, David Cook, roedd marwolaeth Scott Hughes yn “drasiedi.”

“Roedd Scott yn broffesiynol iawn ac yn ddyn ifanc dewr a oedd wedi treulio chwe mis ola’i fywyd yn peryglu ei fywyd i amddiffyn eraill,” meddai.

Llun: Scott Hughes (llun o dudalen deyrnged ar Facebook)