Mae pedair gwaith yn fwy o blant ysgol yn gofalu am berthnasau nag y mae’r ffigurau swyddogol yn ei ddangos, yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi gan y BBC.
Mae’r ffigurau’n awgrymu bod un o bob 12 o blant ysgol uwchradd yn gofalu am berthynas mewn un ffordd neu’r llall, trwy eu helpu i wisgo a molchi, er enghraifft.
Roedd yr arolwg wedi ei wneud gan academyddion trwy holi mwy na 4,000 o ddisgyblion mewn deg ysgol, gan gynnwys un yng Nghaerdydd.
Os yw’r patrwm yn gywir, mae’n golygu bod tua 700,000 o ofalwyr ifanc yng ngwledydd Prydain a mwy na 30,000 yng Nghymru.
Yn ôl Clymblaid Genedlaethol y Gofalwyr Ifanc, dyw’r ffigurau ddim yn syndod. Dyw’r Cyfrifiad ddim yn dod o hyd i lawer o’r bobol ifanc, medden nhw, oherwydd mai rhieni sy’n ateb y cwestiynau a does dim sôn am gyflyrau ‘anodd’ fel HIV/Aids neu salwch meddwl.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod gofalwyr ifanc yn wynebu llai o gymorth oherwydd toriadau mewn gwasanaethau.
Y pryder yw fod y pwysau i ofalu yn achosi straen ar bobol ifanc ac yn amharu ar eu gwaith ysgol a’u cyfleoedd.
Llun: Merch ifanc yn gofalu (Prosiect yn Harrow)