Unwaith eto, mae gweinidogion cyllid yr Undeb Ewropeaidd a chynrychiolwyr Senedd Ewrop wedi methu â chytuno ar gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesa’.

Fe ddaeth y trafodaethau i ben ar ôl chwe awr ym Mrwsel ddoe, gyda Llywodraeth Prydain ymhlith y rhai sy’n rhwystro’r ddêl.

Mae’r Senedd wedi derbyn mai 2.9% fyddai’r cynnydd yn 2011 – yn hytrach na 6% fel yr oedden nhw eisiau – ond maen nhw hefyd wedi galw am fwy o lais wrth benderfynu’r gyllideb yn y dyfodol.

Gwrthod hynny y mae llywodraethau’r gwahanol wledydd a dyma’r ail dro o fewn wythnos i’r trafodaethau fethu.

Fe fydd rhai o’r llywodraethau’n ddigon hapus gyda hynny – nes y bydd cytundeb, fe fydd lefel y gyllideb yn cael ei chadw ar lefel eleni.

Roedd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi bod yn galw’n wreiddiol am rewi’r gyllideb.

Llun: Senedd Ewrop yn Strasbourg (Cyhoeddus)