Mae Llywodraeth Iwerddon yn dal i fynnu na fyddan nhw’n gofyn am gymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae papurau newydd yno’n awgrymu y byddan nhw’n derbyn arian yn benodol i achub y banciau.

Neithiwr, fe ddywedodd prif weinidog y wlad, y Taoiseach Brian Cowen, fod gan Iwerddon ddigon o arian i’w chynnal tan ganol y flwyddyn nesa’.

Ond fe fydd dyfodol y wlad yn cael ei drafod mewn cyfarfod o weinidogion cyllid yr Undeb Ewropeaidd heddiw.

Y gred yw y byddan nhw’n pwyso ar Iwerddon i dderbyn arian ar gyfer y banciau – mae’r gwledydd eraill yn poeni y gallai’r problemau ledu i wledydd eraill o fewn ardal yr Ewro.

Amodau caled

Fe fyddai cymorth ariannol i’r wlad gyfan yn golygu bod Iwerddon yn wynebu amodau caled a cholli rheolaeth tros rai o’i pholisïau ond fe fyddai arian i’r banciau’n haws.

Y banciau sydd wedi achosi llawer o helyntion y wlad, gyda’r Llywodraeth yn talu €20 biliwn i’w cynnal yn ystod y misoedd diwetha’.

Mae rhai sylwebwyr yn credu y bydd rhaid i Iwerddon dderbyn cymorth yn y pen draw ond bod y Llywodraeth yn ceisio rhoi’r argraff fel arall er mwyn cael bargen well.

Mae’r argyfwng ariannol eisoes wedi achosi caledi yn Iwerddon, gyda thoriadau mawr i fudd-daliadau a phobol yn colli’u cartrefi oherwydd cwymp y farchnad dai.

Llun: Yr Adran Gyllid yn Nulyn (Llywodraeth Iwerddon)