Fe fu farw gwraig weddw o ofn ar ôl iddi dod o hyd i ladron yn ei chartref, meddai ei mab wrth gwest heddiw.

Daethpwyd o hyd i Avril Evans, 90, yn farw mewn pwll o waed ar waelod grisiau yn y tŷ teras ble’r oedd hi’n byw ar ei phen ei hun.

Roedd yr heddlu wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl sylweddoli bod lladron wedi bod yn yr adeilad, yn Hafod, Abertawe.

Roedd yr ymchwiliad yn dangos bod y wraig weddw wedi bod yn siopa yn Abertawe yn ystod y dydd ac wedi ei dilyn adref gan ddyn yr oedd yr heddlu yn gwybod amdano.

Dywedodd mab Avril Evans, Alun, ei fod o wedi dod o hyd i’w chorff ar ôl galw i’w gweld hi ym mis Rhagfyr 2006.

Cynhaliwyd y cwest i’w marwolaeth bron i dair blynedd yn ddiweddarach yng Nghanolfan Dinesig, Abertawe.

Clywodd y cwest bod Avril Evans yn derbyn triniaeth ar gyfer cyflwr ar ei chalon ar y pryd ac wedi dioddef trawiad ar y galon blynyddoedd ynghynt.

Fe fu farw o drawiad ar y galon ryw bryd ar 14 Rhagfyr ar ôl dychwelyd adref o’r ddinas.

Dywedodd Dr Andrew Davidson, oedd wedi archwilio ei chorff, fod ganddi anaf i’w phen oedd yn awgrymu ei bod hi wedi disgyn.

Doedd o ddim yn gallu dweud a oedd hi wedi disgyn o ganlyniad i’r trawiad ar y galon. Roedd hi’n bosib ei bod hi wedi ei gwthio i’r llawr gan un o’r lladron, meddai.

Ond dywedodd Alun Evans ei fod o’n credu ei bod hi wedi marw ar ôl cael braw.

“Mae’n rhaid ei bod hi wedi ei dychryn yn arw a bod hynny wedi achosi’r trawiad ar y galon,” meddai.

“Roedd y ffordd yr oedd hi’n gorwedd ar y llawr yn awgrymu ei bod hi wedi cael ofn.”

Yr ymchwiliad

Dywedodd Mike Forman, y ditectif arolygydd oedd yn arwain yr ymchwiliad, bod yr heddlu wedi arestio tri person yn dilyn ei marwolaeth.

Roedd ffilm camera cylch cyfyng yn awgrymu yn gryf bod Avril Evans wedi ei dilyn yn ôl adref o orsaf bysiau yn Abertawe ar y diwrnod y buodd hi farw.

Dywedodd bod y tri a gafodd eu harestio, dau ddyn ac un ddynes, wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth a bod y fechnïaeth wedi dod i ben.

Er nad oedd yr achos wedi ei datrys roedd yr heddlu yn ei drin fel un ‘gweithredol’, meddai.