Mae o leia’ 15 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fom car ffrwydro yn ninas fwyaf Pacistan.
Fe gafodd o leia’ 34 o bobl eu hanafu yn y ffrwydrad sydd hefyd wedi dinistrio adeilad adran ymchwilio’r heddlu yn Karachi.
Yn ôl tystion fe ddymchwelodd yr adeilad ac mae sawl person yn gaeth yn ei weddillion. Mae disgwyl i nifer y meirw godi eto wrth i dimau achub ceisio canfod mwy o bobol.
Gwrthryfelwyr y Taliban sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad – y diweddara’ mewn nifer ganddyn nhw yn erbyn llywodraeth a heddlu Pacistan.
Maen nhw hefyd wedi bod yn ymosod ar dargedau gorllewinol o fewn y wlad yn ystod y tair blynedd diwethaf mewn ymgais i gael gwared ar y Llywodraeth sy’n cydweithio gyda’r Unol Daleithiau.
Roedd yr adeilad yn yr ymosodiad heddiw yn gartref i swyddogion sy’n arwain yr ymgyrch i ddod o hyd i derfysgwyr yn Karachi.
Yn gynharach yn yr wythnos roedd yr adran wedi arestio chwe aelod o grŵp gwrthryfelgar Lashkar-e-Jhangvi.
Mae ar ddeall bod yna ddalfa yn yr adeilad ac mae’n bosib bod gwrthryfelwyr o dan glo yno.