Dolgellau 1 – 3 Llansantffraid

Er gwaethaf dechrau calonogol i Ddolgellau wrth iddyn nhw dorri am hanner amser ar y blaen, fe brofodd yr ail hanner yn un hunllefus i’r tîm cartref wrth i Lansantffraid gymryd mantais o wallau ymosodol Dolgellau a gwrthymosod yn effeithiol.

Cafwyd cyfleoedd di-ri i’r ddwy ochr, wrth i Ddolgellau ymosod yn gyson trwy gydol yr hanner cyntaf ond roedd yr ymwelwyr yn amddiffyn yn effeithiol ac yn gwrthymosod yn gyflym.

Wedi 19 munud fe aeth penderfyniadau yn erbyn Llansantffraid. I ddechrau, fe benderfynodd y dyfarnwr mai cic rydd yn hytrach na chic o’r smotyn oedd yn addas am drosedd David Edwards yn erbyn Ashley Parkes.

O’r gic rydd, fe wrthymosododd Dolgellau a chael cic o’r smotyn pan gafodd Bridge ei dynnu i lawr yn y cwrt cosbi ac fe lwyddodd David Edwards i roi Dolgellau ar y blaen.

Roedd y ddwy ochr wedi taro’r trawst cyn yr hanner ond y tîm cartref a gafodd y gorau ohoni yn yr hanner cyntaf.

Ail hanner

Wedi pum munud o’r ail hanner roedd yr ymwelwyr yn gyfartal, wrth i gic hir gan y golwr Hayns gael ei chasglu gan Mathew Jones ac fe lwyddodd i ddod o hyd Nathan Prodger gyda phas gelfydd cyn i’r ymosodwr wneud yn fawr o’i gyfle.

Er gwaethaf ymdrechion Dolgellau i ennill y gêm, roedd eu hymosod aneffeithiol yn caniatáu i Lansantffraid wrthymosod unwaith eto, ac fe sgoriodd Nathan Prodger ail gôl oddi ar groesiad Mathew Jones.

Fe ymdrechodd y tîm cartref i ddod yn ôl i mewn i’r gêm ond yr un oedd y stori wrth i bêl hir gan amddiffyn Llansantffraid ddod o hyd i Nathan Prodger a sgoriodd ei drydedd.

Er gwaethaf ymdrechion lew gan Morris a Sutton i Ddolgellau gwelwyd gormod o gamgymeriadau gan y tîm cartref i fedru creu gôl yn yr ail hanner.

Adroddiad gan Sephen Parry