Mae Dafydd Hewitt wedi cael ei benodi’n gapten ar y Gleision ar gyfer eu gêm Cwpan LV= yn erbyn Exeter Chiefs nos yfory.
Mae Dai Young wedi dewis tîm ifanc iawn gyda sawl chwaraewr yn absennol oherwydd gemau rhyngwladol.
Mae prif hyfforddwr y Gleision wedi gwneud un newid ymysg y cefnwyr gydag asgellwr Cymru, Tom James, yn dychwelyd i’r tîm yn lle James Loxton.
Mae yna ddau newid yn y rheng ôl gyda chwaraewr yr academi, Luke Hamilton, yn cymryd lle Andries Pretorius ar yr ochr dywyll a John Navidi i mewn yn lle Ben White ar yr ochr agored.
‘Hyder’
Mae Dai Young yn credu y bydd ei dîm yn cymryd hyder o’u buddugoliaeth dros yr haf yn erbyn Exeter Chiefs.
“Pan chwaraeon ni yn eu herbyn dros yr haf, roedden ni wedi rheoli’r gêm yn llwyr a ni oedd y tîm gorau,” meddai Dai Young.
Ond mae hefyd yn credu bod dechrau digon addawol Exeter Chiefs yn Uwch Gynghrair Lloegr yn golygu bydd rhaid i’w dîm fod ar eu gorau.
“Maen nhw’n gwneud yn dda iawn, ac mae ganddyn nhw ambell chwaraewr o safon. Ond mae eu perfformiadau’n ymwneud mwy â’u penderfyniad a’u hymroddiad i chwarae dros ei gilydd.
“Roedden nhw’n gryf iawn yn erbyn Wasps y penwythnos diwethaf ac r’yn ni’n ymwybodol bydd rhaid i ni fod ar ein gorau i sicrhau’r fuddugoliaeth.”
Carfan y Gleision
15 Dan Fish 14 Richard Mustoe 13 Gavin Evans 12 Dafydd Hewitt 11 Tom James 10
Gareth Davies 9 Lloyd Williams.
1 Tom Davies 2 Gareth Williams 3 John Yapp 4 Bryn Griffiths 5 James Down 6 Luke Hamilton 7 Josh Navidi 8 Tom Brown.
Eilyddion- 16 Kristian Dacey 17 Sam Hobbs 18 Scott Andrews 19 Macauley Cook 20 Thomas Young 21 Tom Slater 22 Joseph Griffin 23 Owen Williams.