Mae Toby Faletau ac Aled Brew wedi cael eu rhyddhau o garfan Cymru i chwarae yng ngêm y Dreigiau yn erbyn Northampton yn y Cwpan LV= nos yfory.

Y bachwr, Steve Jones, fydd yn gapten gyda phrop Casnewydd, Dan Way yn dechrau eu gêm gyntaf i’r rhanbarth yn dilyn perfformiad addawol yn erbyn Caerloyw’r wythnos diwethaf.

Mae hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner, yn credu bod y Cwpan LV= yn gyfle i chwaraewyr ifanc y rhanbarth.

“Mae llwyddiant chwaraewyr fel Adam Hughes y tymor hwn yn brawf o bwysigrwydd cyfleoedd fel hyn,” meddai Turner.

“Mae’n ffordd bwysig o ddatblygu talent newydd i’r rhanbarth a Chymru – mae Toby Faletau yn brawf arall o hyn.”

Mae Paul Turner yn credu bod gêm anodd yn wynebu ei dîm yn Franklin Gardens wrth herio’r clwb sy’n ail yn Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd.

“Fe fydd yn gêm galed ac r’yn ni’n paratoi ar gyfer hynny. Ond rwy’n ffyddiog y bydd pob chwaraewr ar y cae yn rhoi o’u gorau nos yfory.”

Carfan y Dreigiau

15 Pat Leach, 14 Tom Cheeseman, 13 Tom Riley, 12 Rhodri Gomer-Davies, 11 Aled Brew, 10 Matthew Jones, 9 James Leadbeater.

1 Hugh Gustafson, 2 Steve Jones, 3 Dan Way, 4 Adam Jones, 5 Rob Sidoli, 6 Hugo Ellis, 7 Lewis Evans, 8 Toby Faletau.

Eilyddion- 16 Lloyd Burns, 17 Nigel Hall, 18 Pat Palmer, 19 Luke Charteris, 20 Jevon Groves, 21 Wayne Evans, 22 Jason Tovey, 23 Ashley Smith.