Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi cael ei enwi’n rheolwr y mis fis Hydref ar ôl i Gaerdydd ennill pum gêm yn olynol.
Yn eironig, fe ddaeth y newyddion ar ôl i’r clwb ollwng pum pwynt trwy golli i Abertawe a chrafu gêm gyfartal yn erbyn Reading neithiwr.
Roedd Jones yn cystadlu ar y rhestr fer yn erbyn rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, ynghyd â Steve Cotterill o Portsmouth ac Aidy Boothroyd o Coventry.
Ond gyda’r Adar Glas yn ennill pob un o’u gemau ym mis Hydref, roedd y penderfyniad yn un hawdd i’r panel.
Fe sgoriodd yr Adar Glas 14 gôl yn ystod y mis, gan gynnwys pedair yn erbyn Leeds Utd yn Elland Road.
“Mae Caerdydd wedi mwynhau mis ardderchog. Gyda Dave Jones yn eu harwain i record ddiguro am y mis, mae’r clwb mewn safle da yn mynd mewn i gyfnod prysur y gaeaf,” meddai cadeirydd y panel, Alan Curbishley.
Chwaraewr y mis
Ar ben hynny, ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, oedd chwaraewr y mis hefyd.
Fe sgoriodd Bothroyd bum gôl yn ystod mis Hydref gan gynnwys dwy yn erbyn Leeds Utd ac un hwyr yn erbyn Coventry i sicrhau buddugoliaeth.
Mae Bothroyd wedi sgorio 13 gôl eisoes y tymor hwn, gyda Dave Jones yn galw ar hyfforddwr Lloegr, Fabio Capello i ystyried dewis yr ymosodwr ar gyfer carfan Lloegr.