Fe fydd gwyntoedd cryf yn taro gogledd Cymru heno, yn ôl y proffwydi tywydd.

Roedd gwyntoedd cryfaf gwledydd Prydain yng Nghapel Curig yn Eryri heddiw, medden nhw. Roedden nhw cyn gryfed â 76 milltir yr awr.

Y disgwyl yw mai gogledd Lloegr, de’r Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd Cymru fydd yn ei chael hi waethaf o tua 6 heno.

Mae Asiantaeth y Priffyrdd wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus cyn mentro allan. Mae lorïau, carafanau a beiciau modur mewn peryg o gael eu dymchwel, meddai llefarydd.

Mae disgwyl glaw trwm hefyd.

Llun: Ceiliog-fochyn y gwynt (Jay Cuthrell CCA 3.0)