Fe fydd newid mawr yn y system fudd-daliadau o les i bawb sy’n dewis “cadw at y rheolau”, meddai’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith.

Dywedodd bod y cynllun, a fyddai’n golygu bod pobol sy’n gwrthod swydd yn colli budd-daliadau am hyd at dair blynedd, yn rhan o “gytundeb” gyda’r di-waith.

Dywedodd Iain Duncan Smith ei fod eisiau symleiddio’r system fudd-daliadau er mwyn gwneud yn siŵr bod “gwaith yn talu ei ffordd” ac nad oes unrhyw ysgogiad i segura gartref.

Yn hytrach na dileu budd-daliadau wrth i bobol gael gwaith, fe fydd y system newydd yn tynnu’r budd-daliadau yn ôl yn araf bach wrth i incwm y person gynyddu.

Cosbi

“Dyma ein cytundeb ni,” meddai Iain Duncan Smith yn Nhŷ’r Cyffredin. “Fe fyddwn ni’n sicrhau bod gwaith yn talu ei ffordd ac yn cefnogi pobol sydd eisiau dod o hyd i waith.

“Os ydyn ni’n gwneud hynny, r’yn ni hefyd yn disgwyl cydweithrediad gan bobol sy’n ceisio dod o hyd i waith.

“Dyma pam ein bod ni’n datblygu sancsiynau ar gyfer y rheiny sy’n gwrthod cadw at y rheolau, yn ogystal â thargedu pobol sydd angen mynd i’r arfer o weithio. Fe fydd hi’n broses ddethol, sy’n targedu’r bobol sydd angen hyn, nid pawb.

Mae elusennau tlodi wedi cyhuddo’r Llywodraeth o godi ofn ar bobol ac o dynghedu teuluoedd a phlant i gyni.

Un budd-dal

Symleiddio’r system oedd nod arall Iain Duncan Smith, meddai, gydag un budd-dal yn lle’r system bresennol o gredydau a thaliadau.

“Drwy leihau cymhlethdod y sustem fe fyddwn ni’n ei gwneud hi’n anoddach twyllo’r system. Mae’r twyll yna yn costio £5 biliwn i’r trethdalwr bob blwyddyn.”

Dywedodd bod £2.1 biliwn wedi ei roi o’r neilltu yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr er mwyn talu am sefydlu’r system newydd.

Cefnogi

Dywedodd llefarydd Gwaith a Phensiynau’r Blaid Lafur yr wrthblaid ei fod yn croesawu nod Iain Duncan Smith ond yn ansicr a oedd y Canghellor George Osborne wedi rhoi digon o gefnogaeth i’w wneud y gwaith yn effeithiol.

“Mae’n gallu dibynnu ar gefnogaeth y Blaid Lafur hyd yn oed os nad ydi o’n gallu dibynnu ar gefnogaeth ei Ganghellor ei hun,” meddai Douglas Alexander.