Mae cyn Weinidog Treftadaeth Cymru wedi mynegi pryder bod Cyfarwyddwr BBC Cymru’n ymddeol ar “amser tyngedfennol” i ddarlledu yng Nghymru.
Ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Cyfarwyddwr nesa’ i ddileu’r cynlluniau i osod S4C o dan adain y Gorfforaeth.
Yn ôl y cyn weinidog, Rhodri Glyn Thomas, mae ymadawid Menna Richards yn “dwysau’r galw am ymchwiliad annibynnol i sefyllfa S4C”.
Cadarnhaodd y BBC ddoe y byddai Menna Richards yn gadael ei swydd yn y flwyddyn newydd wedi mwy na deng mlynedd wrth y llyw.
‘Peth pryder’
Dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wrth Golwg360 fod “peth pryder” ganddo fod newid ar y brig ar “gyfnod mor dyngedfennol”.
Roedd yn pryderu hefyd ynglŷn â cholli “profiad a dylanwad” Menna Richards, gan ddweud fod ganddi rôl bwysig cyn gadael i “wneud yn siŵr fod y BBC yn ymwybodol o bwysigrwydd S4C”.
“Yn sicr, dw i’n gobeithio ac yn hyderus y bydd Menna Richards yn egluro’r sefyllfa i Ymddiriedolwyr y BBC ac yn sicrhau buddiannau S4C dan y drefn newydd,” meddai.
‘Mwy na gwneud rhaglenni’
Fis diwethaf cyhoeddwyd bod y BBC yn wynebu toriadau o 16% yn ei chyllideb ac y byddai £76 miliwn o arian y drwydded yn mynd i dalu am S4C.
Mae yna ddadlau mawr ynglŷn â’r union drefn gyda gwleidyddion a darlledwyr yng Nghymru yn galw am sicrhau annibyniaeth y sianel Gymraeg.
Mae arweinwyr pob un o brif bleidiau Cymru eisoes wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog, David Cameron, yn galw am adolygiad annibynnol a chynhwysfawr o S4C ac yn dal i ddisgwyl am ateb.
Ymchwiliad
Ac yn ôl Rhodri Glyn Thomas, roedd ymadawiad Menna Richards yn gyfle am ymchwiliad annibynnol i’r drefn newydd.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomos y dylai’r adolygiad ystyried “pob peth”, gan gynnwys rôl y sianel fel darlledwyr cyhoeddus, ei rôl yng nghyd-destun yr iaith a diogelu’r Gymraeg a’i chyfraniad i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
“Mae yna fwy i S4C na gwneud rhaglenni,” meddai.
Galw am atal y bartneriaeth
Mae S4C “ar drugaredd Ymddiriedolaeth y BBC yn Llundain am arian a heb annibyniaeth olygyddol” medd Cymdeithas yr Iaith sy’n gobeithio y bydd olynydd Menna Richards yn “gallu atal y cynlluniau rhag mynd yn eu blaen”.
Mae Menna Machreth, llefarydd darlledu’r Gymdeithas wedi dweud wrth Golwg360 fod Cymru mewn sefyllfa “argyfyngus” a bod y Gymdeithas yn “anfodlon gyda’r ffordd y mae BBC wedi ceisio llywio’r ddadl ynglŷn ag S4C”.
Roedd hefyd yn dweud bod record BBC Cymru gyda rhaglenni Saesneg yn codi amheuon am le’r BBC yn goruchwylio rhaglenni Cymraeg – ddoe fe ddywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC y bydden nhw eisiau “trosolwg” ar wario’r sianel.
Maen nhw wedi “canolbwyntio mwy ar raglenni rhwydwaith fel Doctor Who a Casualty,” meddai Menna Machreth gan ofyn sut all Cymru “ymddiried ynddyn nhw i ofalu am y ddarpariaeth Cymraeg?”