Bydd cymal Cymru Pencampwriaeth Rali’r Byd yn dechrau ym Mae Caerdydd heno.
Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr fynd i wylio’r gyrwyr yn cystadlu mewn ras arbennig yn y brifddinas.
Fe fydd y rali hefyd yn ymweld â thraciau ym Mhowys a Cheredigion. Fe fydd y rali yn dod i ben yng Nghaerdydd ar ddydd Sul.
Dyma fydd rownd olaf y bencampwriaeth, sydd eisoes wedi cael ei ennill gan y Ffrancwr Sebastien Loeb.
Ond fe fydd tri gyrrwr yn cystadlu am yr ail safle yn y bencampwriaeth gyda Jari-Matti Latvala, Sebastien Ogier a Petter Solberg yn gobeithio gorffen wrth gwt y pencampwr.
Mae’r gyrwyr eisoes wedi bod yn profi eu ceir mewn rownd arbennig ym Mae Caerdydd neithiwr.
Fe fydd diwrnod llawn o gystadlu yn dechrau yfory wrth i’r gyrwyr ddechrau o Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Fe fydd y rali yn symud ‘mlaen i drac coedwig Radnor, Monument Hill a Four Ways Crychan ar y dydd Sadwrn.
Ar ddydd Sul bydd y gyrwyr yn cystadlu yn Resolfen a Pharc Margam cyn gorffen yng Nghaerdydd.