Mae cwmni wedi dyfeisio teclyn newydd ar gyfer gwefannau rhwydweithio cymdeithasol er mwyn sicrhau bod rhywun yn sobor cyn eu defnyddio.
Nod y teclyn fydd atal pobol rhag gyrru negeseuon meddw i wefannau fel Facebook a Twitter ar ôl sesh fawr.
Mae’r teclyn ‘Social Media Sobriety Test’ gan gwmni Webroot Software yn gorfodi defnyddwyr i gymryd sawl prawf i sicrhau eu bod nhw’n sobor cyn caniatáu iddyn nhw yrru neges.
Mae’r profion yn cynnwys tynnu’r lygoden mewn llinell syth neu deipio’r wyddor am yn ôl.
Bydd defnyddwyr yn gallu gosod y teclyn ar eu cyfrifiaduron a dewis yr oriau y maen nhw’n rhagweld y bydden nhw wedi cael gormod i yfed.
Mae Google hefyd yn cynnwys teclyn ar gyfer ei wasanaeth Gmail gyda’r nod o atal pobol rhag ei ddefnyddio pan maen nhw’n feddw.
Mae ‘Mail Goggles’ yn gorfodi pobol i ddatrys pum cwestiwn mathemategol syml mewn llai na munud cyn eu bod nhw’n cael gyrru neges yn hwyr yn y nos.