Mae Ryan Jones wedi galw ar Gymru i fod yn ddewr wrth iddynt baratoi i wynebu De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Mae cyn gapten Cymru wedi dychwelyd i ymarfer wythnos yma ac mae wedi cael ei gynnwys ar y fainc yn y tîm fydd yn herio’r Springboks.
Mae Ryan Jones wedi wynebu De Affrica pum gwaith yn ystod ei yrfa ond wedi colli pob un o’r gemau.
Y tro diwethaf i Gymru guro’r Springboks oedd yn 1999, ac maen nhw wedi colli 11 gêm brawf yn olynol ers hynny, gan adael i De Affrica sgorio 370 o bwyntiau yn eu herbyn.
“Mae De Affrica yn dîm o’r safon uchaf gyda nifer o sêr, ac fe fyddan nhw’n targedu buddugoliaeth arall,” meddai Ryan Jones.
“Mae gan Dde Affrica dri chwaraewr rheng ôl mawr ac athletig o hyd. Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr a chymryd yr hyder o berfformiad penwythnos diwethaf”
“Y peth da am gêm Awstralia oedd ein bod ni wedi rhoi ein hunain mewn safle lle y gallen ni fod wedi ennill. Y cam nesaf fydd sicrhau ein bod ni’n cymryd y cam nesaf yna ac yn ennill gemau.”
Cefnogi Jones a Phillips
Er gwaethaf galwadau gan sawl un o gyn chwaraewyr Cymru, mae Warren Gatland wedi penderfynu cadw Stephen Jones a Mike Phillips fel maswr a mewnwr.
Mae Ryan Jones wedi dweud ei fod o’n disgwyl iddyn nhw brofi’r beirniaid yn anghywir.
“Mae’n mynd i fod yn brawf corfforol yn erbyn De Affrica ac fe hynny’n berffaith i Mike,” meddai Jones.
“Mae’n anochel nad ydi rhai gemau yn mynd cystal ag eraill, ond dyw un gêm ddim yn mynd i wneud unrhyw un yn chwaraewr gwael.
“Rydw i’n disgwyl i Mike chwarae yn wych a chodi dau fys ar ei feirniaid. Dyna ei gymeriad o.
“Mae’n gystadleuol iawn ac rwy’n siŵr ei fod o’n edrych ymlaen at gymryd ei gyfle nesaf.”
Mae Ryan Jones hefyd yn credu bod gan Stephen Jones y profiad i reoli’r gêm yn erbyn De Affrica.
“Mae Stephen yn berfformiwr o’r safon uchaf, ac mae ganddo brofiad helaeth,” meddai.
“Mae ganddo ddealltwriaeth ardderchog o’r gêm ac fe fydd yn gwneud yr hyn mae o bob tro yn ei wneud sef llywio’r gêm.”