Yn ôl cyn-Brif Weithredwr S4C, Huw Jones, dyw bartneriaeth gyda’r BBC ddim yn broblem ond rhaid cadw corff annibynnol ar gyfer sianel Gymraeg.

Mewn darn barn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae’n dweud nad oes “dim problem gyda’r syniad fod yr arian i gyllido S4C yn dod o’r drwydded deledu”.

“Yng nghyfnod cynnar y sianel, y cwmnïau ITV oedd yn cyfrannu’r cyllid drwy lefi gorfodol,” meddai.

“Ond roedd y Ddeddf wnaeth greu S4C yn sicrhau nad oedd ganddynt unrhyw reolaeth dros weithgareddau a phenderfyniadau S4C.”

Mae’n dweud bod S4C wedi mynd i bartneriaeth gydag un o’r cwmnïau yma, sef – HTV – trwy gytundeb wnaeth bara am saith mlynedd.

“Ond partneriaeth wirfoddol oedd hon,” meddai. “Partneriaeth yr oedd gan S4C yr hawl i’w hymestyn neu ei dirwyn i ben ar ddiwedd y cyfnod.”

“Felly dydi sôn am bartneriaeth gyda’r BBC ddim yn broblem chwaith. Yn wir mae S4C a’r BBC wedi partneru’n llwyddiannus ar lawer achlysur – wrth ariannu Pobl y Cwm a’r Gerddorfa Genedlaethol, cydgynyrchiadau animeiddio, hawliau chwaraeon ac yn y blaen.

“Ond ym mhob un o’r achosion hyn, roedd y ddau gorff yn rhydd i ystyried y manteision a’r anfanteision a dod i gytundeb cyfartal rhesymol, neu gerdded i ffwrdd.”

Mae’n dweud mai’r model a grybwyllir ar gyfer S4C yw model BBC Alba, er nad oes gan y sianel hwnnw ddim Prif Weithredwr.

“Mae yna ddau brif swyddog – y naill yn dod o’r BBC a’r llall o MG Alba,” meddai. “Mae disgwyl eu bod yn cydweithio. Nid strwythur corff annibynnol yw hynny.”

Darllenwch weddill y darn barn yng nghylchgrawn Golwg, 11 Hydref