Fe fu farw pensiynwr o dde Cymru ar ôl disgyn o lwybr serth wrth gerdded ar ei ben ei hun yn yr Eidal, clywodd cwest heddiw.

Roedd Robert Collins, 67, oed o Mayals yn Abertawe wedi bod ar goll ers deg diwrnod cyn i gerddwr arall ddod o hyd i’w gorff yn ardal Dolomites y wlad.

Roedd Robert Collins wedi gadael am y gwyliau yn ardal ogleddol yr Eidal ar 3 Gorffennaf.

Ar ôl hedfan o Faes Awyr Heathrow i Alleghe yn nhalaith Belluno, fe ffoniodd ei wraig, Margaret Collins er mwyn dweud ei fod o wedi cyrraedd yn saff.

Roedd staff yn y gwesty ble’r oedd o’n aros wedi dechrau pryderu amdano pan fethodd a dychwelyd o gerdded yn y mynyddoedd ar 7 Gorffennaf.

Fe chwiliodd yr awdurdodau amdano am ddyddiau, heb unrhyw lwc. Ond ar 18 Gorffennaf, gwelwyd ei gorff gan gerddwr arall ar lwybr anghysbell Ru De Porta.

Yn ôl yr heddlu roedd o wedi gadael ei basbort a’i ffôn symudol yn y gwesty. Doedd yr awdurdodau yn yr Eidal ddim yn credu fod yna unrhyw beth amheus ynglŷn â’i farwolaeth.

Fe glywodd y cwest iddo farw ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w ben, oedd yn awgrymu iddo ddisgyn o uchder.

“Wrth gerdded ar lwybr serth, rhywsut fe ddisgynnodd Mr Collins,” meddai’r crwner Philip Rogers.

“Mae’n amhosib dweud sut na pham, ond fe ddisgynnodd ymhell a dioddef anafiadau i’w ben.”

Fe gofnododd y crwner Philip Rogers marwolaeth ddamweiniol.