Mae rhaglen Cyw ar S4C wedi cael ei henwebu ar gyfer un o brif wobrau BAFTA Plant Prydain.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Cyw gael ei henwebu yng nghategori ‘Sianel y Flwyddyn’ ar gyfer y gwobrau, ac fe fydd yn herio tri o enwau mawr y byd teledu plant er mwyn cipio un o wobrau mwyaf BAFTA Plant Prydain.

Y tri arall yng nghategori ‘Sianel y Flwyddyn’ yw CBBC, CBeebies a Milkshake!

Cyw, eleni eto, yw’r unig enwebiad yn y categori sydd wedi ei chynhyrchu mewn iaith heblaw’r Saesneg.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni fawreddog yn Llundain ar 28 Tachwedd.

Rhaglenni plant yn bwysig i Gymru

Yn ôl Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae cydnabyddiaeth fel hyn i safon rhaglenni plant yng Nghymru yn “newyddion da.”

Roedd cefnogaeth amlwg i Cyw i’w gael yn rali Cymdeithas yr Iaith yn erbyn toriadau i S4C ddydd Sadwrn, gyda nifer o bosteri ‘Rhaid i Cyw fyw’ a ‘Peidiwch â lladd Cyw’ i’w gweld yn y gynulleidfa.

“Roedd cefnogaeth gref i gael i wasanaeth Cyw yn y rali ddydd Sadwrn,” meddai Bethan Williams, a rhybuddiodd y gallai’r toriadau cyllid a rheolaeth y BBC dros S4C “beryglu rhaglenni plant”.

Diwrnod mawr i’r Diwrnod Mawr

Mae cyfres meithrin Y Diwrnod Mawr hefyd wedi’i henwebu yng Ngwobrau BAFTA Plant Prydain eleni.

Bydd Y Diwrnod Mawr, y gyfres gyntaf erioed o raglenni dogfen i blant meithrin, yn cystadlu yn erbyn cynyrchiadau gan gynnwys Grandpa in my Pocket, Big and Small a Something Special, y tri yn cael eu darlledu ar CBeebies.

Bydd y pedwar yn cystadlu yng nghategori’r Pre-School Live Action.

“Mae’r Diwrnod Mawr yn gyfres arloesol yn y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i blant ifanc gael blas ar raglenni ffeithiol a dogfen, rhaglenni sy’n cynnig profiadau cofiadwy ac ysgytwol ar adegau,”meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C.

“Mae’r enwebiad yma yn profi’n glir fod cynlluniau S4C o ran buddsoddi ym myd teledu a gwasanaethau i blant yn allweddol ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r iaith ac i fywyd diwyllianol Cymru.”

Cyw yn ymestyn ei hadenydd

Daw’r newyddion ynglŷn ag enwebiad Cyw yng ngwobrau BAFTA Plant Prydain ychydig wythnosau wedi’r cyhoeddiad fod y gwasanaeth i blant yn mynd i gael ei ymestyn ar S4C.

Fe fydd Clwb Cyw yn cael ei ddarlledu ar benwythnosau, rhwng 7am a 9am ar fore Sadwrn a Sul, yn ychwanegol at raglenni arferol Cyw o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7am ac 1pm.