Fe drodd gorymdaith fawr yn erbyn ffioedd dysgu yn dreisgar wrth i ddegau ar filoedd o fyfyrwyr a darlithwyr orymdeithio trwy Lundain.
Fe lwyddodd un grŵp o brotestwyr i wthio eu ffordd i mewn i bencadlys y Blaid Geidwadol – maen nhw’n gwrthwynebu bwriad y Llywodraeth i dorri grantiau i brifysgolion a chodi ffioedd myfyrwyr.
Fe gafodd sawl heddwas ei anafu ar ôl i grŵp o ieuenctid ymosod arnyn nhw ynghanol yr anrhefn sydd wedi ei gondemnio gan y trefnwy, Undeb y Myfyrwyr, yr NUS.
Fe gafodd wyth person eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau ar ôl y gwrthdaro ger Tŵr Millbank yn agos at San Steffan.
Dechrau’n heddychlon
Fe ddechreuodd y brotest yn heddychlon, gyda hyd at 50,000 o fyfyrwyr, darlithwyr a chefnogwyr yn gorymdeithio i lawr Whitehall heibio i Stryd Downing a’r Senedd.
Ond fe gychwynnodd y trais tuag awr yn ddiweddarach, gyda channoedd o weithwyr yn gorfod ffoi adeilad Millbank wrth i ffenestri cael eu torri ac i dân gael ei gynnau.
Roedd yna dorf o tua 1,000 o bobol yno wrth i rai daflu pethau at yr heddlu. Ddiwedd y prynhawn roedd tua 25 o fyfyrwyr yn cael eu dal gan yr heddlu ym mynedfa pencadlys y Ceidwadwyr.
Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr roedd eu holl staff yn ddiogel.
Llywydd yn condemnio’r trais
Mae Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Aaron Porter, wedi beirniadu’r “canran fach” o brotestwyr am y trais. Fe ddywedodd nad oedd y trais yn rhan o gynlluniau’r trefnwyr.
“Roedden ni wedi siarad am yr angen i atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd a sut yr oedd hi’n bwysig ymddwyn mewn ffordd gyfrifol. Ond mae lleiafrif wedi tanseilio hynny,” meddai Aaron Porter.
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, hefyd wedi nodi ei siom dros agwedd dreisgar y brotest.
“Mae’n ofnadwy bod lleiafrif wedi camddefnyddio eu hawl i brotestio. Mae’n annioddefol ac fe fyddwn ni’n erlyn y rhai hynny sy’n gyfrifol,” meddai Boris Johnson.
Bygwth disodli ASau a’r protestwyr o Gymru fan hyn
Llun: Y brotest heddiw (o wefan yr NUS)