Mae myfyrwyr wedi rhybuddio heddiw y byddan nhw’n ceisio gorfodi isetholiad yn etholaethau ASau sy’n cefnogi ffioedd dysgu uwch.

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr wedi addo targedu ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol os nad ydyn nhw’n pleidleisio yn erbyn y mesur.

Dywedodd Aaron Porter, Llywydd yr Undeb, y byddai’n ceisio gorfodi isetholiadau yn eu seddi gan ddefnyddio hawliau newydd sy’n cael eu haddo gan y Llywodraeth.

Fe fyddai’r rheiny’n caniatáu i etholwyr alw aelod seneddol yn ôl os yw 10% ohonyn nhw’n arwyddo deiseb yn datgan diffyg hyder ynddo.

Dau AS o Gymru

Mae dau o Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, sef Mark Williams a Jenny Willott, mewn seddi ble mae canran mawr o’r etholwyr yn fyfyrwyr.

Daeth y rhybudd wrth i filoedd o fyfyrwyr a darlithwyr brotestio yng nghanol Llundain yn erbyn toriadau ariannol a chynnydd mewn ffioedd myfyrwyr.

Yn ôl Aaron Porter roedd y “Llywodraeth yn gofyn i bobol dalu tair gwaith cymaint heb weld unrhyw welliant o ran safon y cyrsiau”.

Cannoedd o fyfyrwyr o Gymru

Ychwanegodd Sharyn Williams, Is-lywydd Materion Cymreig a’r Gymuned gyda’r Undeb ym Mhrifysgol Bangor fod yr awyrgylch yn y brotest yn “wych.”

“Roedd rhai yn amcangyfrif fod yna cymaint â 40,000 yma,” meddai’ – roedd hi’n un o 250 o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor oedd wedi teithio yno ar y bws heddiw.

Roedd myfyrwyr o Aberystwyth, Coleg Gwent, Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a thua 400 o Gaerdydd yno hefyd, meddai.

“Mae gynnon ni faneri Cymraeg a Saesneg yma. Roedd un yn dweud ‘If I could affordd £9,000 I’d have bought a better banner.

“Mae pawb yn gobeithio y bydd pethe’n newid ar ôl hyn. Mae angen i fyfyrwyr Cymru a Phrydain sefyll ar eu traed a gwrthod y toriadau. Dydi hi ddim yn deg gwthio dyledion y genhedlaeth yma ar bobol ifanc.

“Mae sawl person talentog iawn na fydd yn gallu mynd i’r Brifysgol oherwydd y ffioedd newydd yma. Ond mae’n braf gweld darlithwyr yma yn ein cefnogi ni hefyd.”