Mae’n rhy gynnar i ddweud a yw’r BBC am roi rhyddid gweithredoli S4C, yn ôl un o gyn benaethiaid y sianel.
Mae’n dweud y bydd angen aros i weld beth yn union y mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yn ei olygu wrth ddweud mewn llythyr at Gadeirydd Awdurdod S4C y dylai fod gan yr Ymddiriedolaeth y “drosolwg” ar wario’r sianel.
Mewn erthygl yn y cylchgrawn Golwg fory, mae Huw Jones yn galw am “annibyniaeth weithredol” i’r BBC ac mae hynny’n golygu gwneud yn siŵr na fydd yr arian yn mynd “drwy strwythur gweithredol y BBC”.
‘Ddim yn manylu digon’
“Mae’n rhy gynnar i ddweud beth ydi ystyr ‘trosolwg’ ac a ydi o’n gyfystyr ag annibyniaeth gweithredol,” meddai Huw Jones. “Mae o’n sôn am annibyniaeth greadigol ond dydi hynny ddim o angenrheidrwydd yr un peth.
“Ar y llaw arall, dydi o ddim yn manylu digon i fod yn siŵr nad oes modd i gael dealltwriaeth a fyddai’n rhoi annibyniaeth gweithredol.”
Roedd Huw Jones yn croesawu’r ffaith mai Elan Closs Stephens, cynrychiolydd newydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC fydd yn trafod ar ran y Gorfforaeth – fe fydd hi’n deall sensitifrwydd y maes, meddai.
Y llythyr yn llawn
Oddi wrth Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC at John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
10 Tachwedd 2010
Annwyl John
Yn dilyn ein cyfarfod adeiladol yr wythnos hon, roeddwn yn awyddus i ysgrifennu atoch er mwyn cadarnhau’r materion a drafodwyd gennym, sef parhad y bartneriaeth strategol sy’n bodoli rhyngom eisoes a safbwynt y BBC yng nghyswllt datganiadau diweddar Llywodraeth y DU ynglŷn â chanlyniadau’r adolygiad gwariant.
Parthed y bartneriaeth strategol sy’n bodoli eisoes ar gyfer darparu rhaglenni i S4C, rwy’n hyderus y medrwn bellach symud ymlaen yn ebrwydd i adnewyddu’r cytundeb hwn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae adnewyddu’r bartneriaeth hon yn hynod bwysig i’r BBC wrth i’n dau sefydliad symud tuag at gydweithio’n agosach.
Yng nghyswllt y cyhoeddiad ar yr adolygiad gwariant, mae Jeremy Hunt wedi ei gwneud hi’n glir, o fod wedi gostwng ei gwariant ei hun ar gyfer S4C fod y Llywodraeth wedi penderfynu taw model newydd o bartneriaeth gyda’r BBC oedd y ffordd orau o sicrhau dyfodol hir dymor y gwasanaeth, a gwnaed yr awgrym hwn wrth y BBC yng nghyswllt trafodaethau ynghylch cytundeb newydd ar lefel ffi’r drwydded.
Rhaid i ni yn awr gydweithio er mwyn gweithredu’r polisi hwn. Bydd trefniant newydd yn dangos BBC sy’n adeiladu ar yr ymrwymiad sydd ganddo eisoes i ddarparu ystod eang o wasanaethau Cymraeg – gyda’r cyfrifoldeb ychwanegol newydd dros gyllido rhan fawr o wasanaeth safon uchel S4C.
Dymunaf fod yn gwbwl eglur, gyda chi ac eraill o blith Awdurdod S4C nad oes gan y BBC unrhyw uchelgais i draflyncu S4C. Rydym wedi ein hymrwymo i S4C sy’n greadigol annibynnol, sy’n denu cyllid o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys ffi’r drwydded. Rhannwn eich penderfyniad y dylai S4C barhau â’i pherthynas gref â’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru.
Gan gychwyn ym mis Ebrill 2013 bydd y BBC yn gwneud cyfraniad ariannol sylweddol i gostau gweithredu S4C, yn ychwanegol at ein darpariaeth bresennol o raglenni. Ar gyfer 2013/14 bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn fwy na £76m. Ymddiriedolaeth y BBC yw gwarcheidwad ffi’r drwydded ac o ganlyniad bydd angen iddi gael tros olwg o’r ffordd y mae’r arian hwn yn cael ei wario. Amlinella’r cytundeb ar ffi’r drwydded yn fras sut y gallasid cyflawni hyn.
Rydym ill dau yn cytuno y byddai’n fuddiol i ni gytuno ar y manylion ynghylch strwythur llywodraethu newydd cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol bosib er mwyn darparu sicrwydd i’r ddau sefydliad.
Bydd fy nghydweithiwr, Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru, yn llywio’r trafodaethau ar ran Ymddiriedolaeth y BBC ac rydym ill dau yn edrych ymlaen at berthynas gwaith barhaus ac adeiladol gyda chi ac Awdurdod S4C, gyda mewnbwn addas oddi wrth yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
O ystyried diddordeb y cyhoedd yn y mater hwn bwriadaf ryddhau cynnwys y llythyr hwn i’r cyhoedd; rwyf yn anfon copi hefyd at Jeremy Hunt.
Yn gywir iawn
Syr Michael Lyons
Cadeirydd
Llun: Elan Closs Stephens – hi fydd yn trafod ar ran y BBC (Ymddiriedolaeth y BBC)