Fe fydd y Llywodraeth yn craffu ar ddulliau rheoli Prifysgol Cymru ar ôl i raglen deledu godi amheuon am ddau goleg tramor sy’n cyflwyno ei graddau hi.

Fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wrth benaethiaid pob prifysgol yng Nghymru ei fod yn “pryderu’n arw” bod Prifysgol Cymru yn “gwneud sbort” o enw Cymru.

Mae wedi rhoi cyfarwyddyd i HEFCW, y corff sy’n rhannu arian cyhoeddus i’r prifysgolion, archwilio’r materion a godwyd gan raglen Week In Week Out y BBC.

Roedd honno wedi dangos fod prifathro un coleg sy’n rhoi graddau Prifysgol Cymru wedi dweud celwydd am ei gymwysterau tra bod coleg arall ar un adeg wedi ei wahardd gan ei llywodraeth ei hun.

Fe ddywedodd Leighton Andrews y bydd hefyd yn cynnwys Prifysgol Cymru yn ei adolygiad o reolaeth prifysgolion a’i fod wedi sgrifennu at yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i godi cwestiynau am eu rôl nhw yng ngwaith Prifysgol Cymru.

Sylwadau Leighton Andrews

Mae gan Brifysgol Cymru lawer o rinweddau cryf o hyd, ond mae’n rhaid iddi wneud yn siŵr nad yw’r cyhuddiadau’n ei herbyn yn tanseilio ei brand a’i dyfodol.

“Dw i eisiau gweld Prifysgol Cymru’n faen prawf ar gyfer safon Addysg Uwch yng Nghymru ac, o ganlyniad, dw i eisiau eu gweld yn ymateb o ddifri i’r cwestiynau sydd wedi codi.”

Llun: Adeilad Prifysgol Cymru