Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi gwneud yn glir y bydd rhaid iddi hi gadw llygad ar sut y mae S4C yn gwario arian o dan drefniant newydd y Llywodraeth yn Llundain.
Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC wedi sgrifennu at Gadeirydd Awdurdod S4C i ddechrau rhoi’r trefniadau yn eu lle – er bod pedwar arweinydd gwleidyddol Cymru wedi galw am adolygiad o ddyfodol y sianel.
Yn ei lythyr, mae Syr Michael Lyons yn pwysleisio “nad oes gan y BBC unrhyw uchelgais i draflyncu S4C” a’u bod wedi ymrwymo “i S4C sy’n greadigol annibynnol” ac sy’n parhau “â’i pherthynas gref â’r sector annibynnol yng Nghymru”.
Ond mae’r llythyr hefyd yn awgrymu mai’r BBC ei hun fydd yn rhoi arian i’r sianel Gymraeg – y £76 miliwn a fydd yn dod o arian y drwydded.
‘Trosolwg’ i’r BBC
“Ymddiriedolaeth y BBC yw gwarcheidwad ffi’r drwydded ac, o ganlyniad, bydd angen iddi gael trosolwg o’r ffordd y mae’r arian hwn yn cael ei wario.”
Cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, Elan Closs Stpehens – cyn Gadeirydd Awdurdod S4C – fydd yn cynnal y trafodaethau ar ochr y Gorfforaeth.
Mae’r llythyr yn sôn am “gytuno ar y manylion ynghylch strwythur llywodraethu newydd cyn gynted ag bo modd”.
Ymateb a’r llythyr yn llawn fan hyn
Llun: Mynedfa Broadcasting House (Cyhoeddus)