Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger wedi gwadu y bydd Aaron Ramsey yn cael ei anfon allan ar fenthyg pan fydd yn gwella’n llawn o’i anaf.
Mae’r Cymro’n cymryd camau addawol i ddychwelyd i chwarae cyn diwedd y flwyddyn ar ôl torri ei goes yn dilyn tacl erchyll gan amddiffynnwr Stoke, Ryan Shawcross, ym mis Chwefror eleni.
Roedd yna awgrymiadau y gallai Ramsey ymuno gyda chlwb arall er mwyn sicrhau ei fod yn cael chwarae’n gyson i gryfhau ei ffitrwydd.
Ond mae Wenger yn credu y byddai’n well i’r chwaraewr dylanwadol aros gyda’r Gunners a helpu’r clwb i wthio am bencampwriaeth yr Uwch Gynghrair.
Mae rheolwr Arsenal wedi dweud y dylai’r Cymro fod ar gael i chwarae i’r ail dîm erbyn diwedd y mis.
“D’y ni ddim yn siarad am gytundeb benthyg ar hyn o bryd,” meddai Arsene Wenger. “Y peth pwysig nawr ei fod yn dod ‘nôl mewn i’r grŵp a chwarae gyda ni.
“Mae’n gwneud cynnydd rhyfeddol gyda’r tîm, felly fyddwn ni ddim yn gadael iddo adael ar gytundeb benthyg.”