Fe fydd Llanelli’n wynebu’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Loosemoores ar ôl curo Aberystwyth 3-1 yn ail gymal y rownd gyn derfynol ar Barc Stebonheath.
Fe orffennodd y cymal cyntaf 1-1 ar Goedlan y Parc, ond fe ddechreuodd tîm Andy Legg yr ail gymal yn gryfach na’u gwrthwynebwyr gyda Jason Bowen yn canfod cefn y rhwyd wedi chwarter awr.
Fe darodd yr ymwelwyr ‘nôl i unioni’r sgôr gyda gôl Lewis Codling wedi 64 munud er mwyn codi gobeithion Aberystwyth.
Ond fe sgoriodd ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths, ddwy gôl yn neg munud olaf y gêm er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth a lle yn y rownd derfynol.
Y Seintiau Newydd
Roedd lle’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol gwy neu lai’n sicr wedi buddugoliaeth o 9-1 yn erbyn tîm ail-reng Bangor yn y cymal cyntaf.
Fe enillodd tîm Mike Davies yr ail gymal 3-1 ar Ffordd Farrar hefyd er mwyn sicrhau canlyniad 12-1 dros ddau gymal.
Dyma sgôr mwyaf yn hanes y gystadleuaeth, gan faeddu sgôr 10-3 Caerfyrddin yn erbyn Llanelli yn nhymor 2004/5.
Roedd Alan Bull wedi rhoi tîm Nev Powell ar y blaen wedi 13 munud gydag ymdrech o 20 llath.
Taro’n ôl
Ond fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl i mewn i’r gêm yn yr ail hanner wrth i’r ymosodwr ifanc, Charlie Proctor, sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb wedi 67 munud.
Fe lwyddodd Scott Ruscoe gyda chic o’r smotyn wedi 82 munud cyn i Jamie Wood sicrhau’r fuddugoliaeth gyda munud yn weddill.
Y Seintiau Newydd yw’r tîm cyntaf i ennill ar Ffordd Farrar y tymor hwn, ond mae Bangor yn parhau i fod yn ddiguro yn Uwch Gynghrair Cymru.