Braidd yn rhydlyd oedd Llanrhystud ar ôl tair wythnos o seibiant heb gêm, wrth iddyn nhw golli yn erbyn Aberporth yn ail rownd Cwpan Ceredigion.

Roedd Aberporth yn pwyso am gôl o’r cychwyn ac roedd amddiffyn Llanrhystud yn anniben, ond methodd y tîm cartref boeni Nathan Bennett yng ngôl Llanrhystud.

Ugain munud i mewn i’r gêm mi ddechreuodd Llanrhystud greu problemau i Aberporth, a dros gyfnod o ddeg munud fe ddylen nhw fod wedi mynd ar y blaen gyda foli Lee Jones a pheniad Darren Davies yn gwibio heibio’r postyn,

Yr Ail hanner

Newidiodd rheolwr Llanrhystud, Stuart Bird y tîm ar yr hanner, gan symud Darren Davies i’r blaen a thynnu Dave Jones yn ôl i ganol y cae.

Am rannau helaeth o’r ail hanner, cafodd Llanrhystud, drwy Darren Davies, y cyfleoedd gorau i ennill y gêm.

Ond er y pwysau gan Lanrhystud, Aberporth aeth ar y blaen ar ôl 73 munud. Dangosodd yr ymosodwr Matthew Newbold-Jones ei ddawn gyda foli grefftus i gornel y rhwyd.

Chwilio’n ofer

Gydag amser yn brin, chwiliodd Lanrhystud yn ofer am gôl i unioni’r sgôr. Ond wrth iddyn nhw wthio dynion ymlaen yn ystod amser ychwanegol, fe ymosododd Aberporth ac ennill cic o’r smotyn. Ond fe arbedodd Nathan Bennett yr ymdrech wael.

Enillodd Llanrhystud gic rydd beryglus yn yr eiliadau olaf, ond methodd Lee Jones â bwrw’r targed.

Roedd dathliadau chwaraewyr a chefnogwyr Aberporth ar ôl y gêm yn dangos pa mor bwysig oedd y fuddugoliaeth yma i’r clwb.

Adroddiad gan Dylan Jones