Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn disgwyl i Bristol City fod yn fwy o her na Chaerdydd pan fydd yr Elyrch yn eu hwynebu yn Stadiwm Liberty heno.
Fe fydd Abertawe yn llawn hyder ar ôl maeddu eu gelynion pennaf dros y penwythnos, ond mae Rodgers yn credu bod tasg anodd yn wynebu ei dîm er bod y clwb o Fryste yn agos i waelod y tabl.
“Fe fydd Dinas Bryste yn wrthwynebwyr anodd. Fe fydd hi’n her galetach na Chaerdydd,” meddai.
“Pan ’ych chi’n chwarae yn erbyn y timau sydd ar frig y tabl mae’n haws gwneud eich gorau glas. Rhaid i’r chwaraewyr gydnabod bod Bristol City yn dîm da gyda chwaraewyr da.”
Newyddion y tîm
Roedd pob aelod o garfan yr Elyrch ac eithrio Tom Butler a Ferrie Bodde wedi ymarfer ddoe.
Mae Abertawe’n croesawu Darren Pratley yn ôl i’r garfan ar ôl iddo golli’r gêm ddarbi oherwydd gwaharddiad.
Fe fydd arwr y ddarbi, Marvin Emnes yn chwarae ei gêm olaf i dîm Brendan Rodgers heno cyn dychwelyd i Middlesborough yn dilyn cyfnod ar fenthyg.
Roedd hwb arall i Abertawe gyda’r newyddion bod y chwaraewr canol cael dylanwadol, Mark Gower, wedi arwyddo cytundeb newydd.
Roedd cytundeb Gower yn dod i ben ddiwedd y tymor, ond mae wedi arwyddo estyniad blwyddyn.
‘Dim dyfodol’
“Doeddwn i ddim yn credu bod llawer o ddyfodol i mi gyda’r clwb dros yr haf,” meddai Gower. “Doedd dim rheolwr gyda’r clwb ac roedd yna sawl opsiwn yn y garfan yn fy safle i.
“Ond fe ddaeth y bos newydd i mewn a newid fy safle, ac rwy’n hoffi meddwl fy mod i wedi haeddu’r cytundeb newydd.”