Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud nad oes unrhyw sail i’r sïon y bydd gwasanaethau yn cau mewn tri ysbyty yng ngogledd Cymru.
Roedd yna bryderon y byddai adolygiad yn argymell cau gwasanaethau mamolaeth brys yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Ond fydd adolygiad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddim yn ystyried cael gwared ag unrhyw un o’r gwasanaethau hynny, cyhoeddwyd heddiw.
‘Trafodaeth’
Dywedodd y Bwrdd mai nod yr adolygiad oedd “cynnal trafodaeth ynglŷn â sut oedd angen i wasanaethau newid”.
Fyddai’r adolygiad ei hun ddim yn arwain at unrhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau, medden nhw. Y Bwrdd Iechyd fyddai’n penderfynu ar unrhyw newidiadau o’r fath.
“Mae’r Bwrdd eisiau ei gwneud hi’n gwbl glir bod y tri Ysbyty Cyffredinol yng Ngogledd Cymru yn rhan annatod o’u gwasanaethau yn y dyfodol,” meddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn datganiad.
‘Rhyddhad’
Dywedodd Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd, Ann Jones, y byddai’r newyddion yn “rhyddhad” i’r miloedd sydd wedi ymgyrchu i achub gwasanaethau mamolaeth a phlant yn yr ysbytai.
“Roedd yna 200 genedigaeth Gesaraidd yn ysbyty Glan Clwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig,” meddai.
“Dyma pam fy mod i wedi mynnu bod y gwasanaeth yn parhau tu hwnt i’r adolygiad yma. Dw i’n falch bod y mater wedi ei ddatrys yn foddhaol ac rydw i eisiau diolch i’r cyfryngau lleol a’r holl bobol eraill sydd wedi codi’r mater gyda fi.”
Llun: Ysbyty Glan Clwyd – 200 triniaeth Gesaraidd mewn blwyddyn