Mae’r farchnad dai yng Nghymru yn gwneud yn well nag unrhyw ran arall ym Mhrydain, yn ôl arolwg a ddatgelwyd heddiw.
Yn ôl astudiaeth Arolwg y Farchnad Dai ar gyfer mis Hydref, mae Cymru yn gwneud yn well na’r cyfartaledd Prydeinig o ran prisiau tai, nifer y tai sy’n gwerthu, a nifer y prynwyr newydd.
Serch hynny, mae cofnodion y syrfewyr siartredig yn dal i ddangos bod prisiau tai, nifer y prynwyr newydd, a nifer y tai sy’n gwerthu yn syrthio.
Sefydlog
Mae’r arolwg ar gyfer mis Hydref yn dangos fod y galw am dai yn parhau yn isel, ond mae’r ffigyrau yn awgrymu fod Cymru’n goroesi’r storm yn well na gweddill Prydain.
Mae ystadegau’r arolwg yn dangos bod newidiadau ym mhrisiau tai yng Nghymru wedi aros yn weddol gyson yn ystod y tri mis diwethaf, gyda dim ond 21% o syrfewyr siartredig yng Nghymru yn cofnodi cwymp mewn prisiau, o’i gymharu â 64% o’r syrfewyr siartredig a holwyd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.
Mae disgwyl y bydd y prisiau tai yng Nghymru yn parhau i ddisgyn dros y tri mis nesaf, ond ar raddfa llawer llai na’r hyn sydd i’w ddisgwyl yng ngweddill Prydain.
Morgeisi
Yn ôl David Jones o gwmni Jones & Redfearn yn y Rhyl, bydd y farchnad dai yn parhau’n dawel hyd nes ei bod hi’n haws i brynwyr tro cyntaf gael morgeisi.
“Hyd nes y bydd y banciau yn dechrau benthyg arian yn synhwyrol, mae’r farchnad yn mynd i barhau’n dawel,” meddai.
“Gall pobol sy’n prynu am y tro cyntaf ddim gwneud hynny os na allan nhw fenthyg, ac os na fyddan nhw’n prynu, fydd yna ddim adfywiad yn y farchnad.”
Diffyg benthyciadau morgeisi i brynwyr tro cyntaf yw cwyn penna’ Kelvin Francis a’i gwmni o Gaerdydd hefyd.
“Y diffyg arian ar gyfer morgeisi, yn enwedig i rai sy’n prynu tai am y tro cyntaf, yw’r prif reswm bod y farchnad yn cael ei dal yn ôl.
“Mae’n rhaid i sefydliadau benthyciadau a’r llywodraeth weithio gyda’i gilydd er mwyn datrys hynny,” meddai.